fEseia 10:5-34; 14:24-27; Nahum 1:1—3:19

Zephaniah 2

Galwad i droi at Dduw

1Dewch, casglwch at eich gilydd,
y genedl sydd heb gywilydd.
2Dewch cyn i'r cwbl ddod yn wir,
ac i'ch cyfle olaf ddiflannu fel us –
Cyn i'r Arglwydd wylltio'n lân gyda chi;
cyn i'w ddydd barn eich dal chi!
3Gofynnwch i'r Arglwydd eich helpu,
chi sy'n cael eu cam-drin yn y wlad
ac sy'n ufudd i'w orchmynion.
Gwnewch beth sy'n iawn. Byddwch yn ostyngedig.
Falle y cewch eich cuddio mewn lle saff
ar y diwrnod pan fydd yr Arglwydd yn barnu.

Barnu Philistia

4Bydd tref Gasa'n wag ac Ashcelon yn adfeilion.
Bydd pobl Ashdod wedi eu gyrru i ffwrdd cyn canol dydd,
a tref Ecron
2:4 Gasa … Ecron Gasa, Ashcelon, Ashdod, Ecron – pedair o brif drefi'r Philistiaid. Roedd y pumed, sef Gath, eisoes wedi ei dinistrio gan Sargon II, brenin Asyria yn 711 CC
wedi ei bwrw i lawr.
5Gwae chi sy'n byw ar lan y môr –
bobl Philistia ddaeth o Creta.
Amdanat ti Canaan, wlad y Philistiaid,
mae'r Arglwydd wedi dweud yn dy erbyn:
“Bydda i'n dy ddinistrio, a fydd neb ar ôl!”
6Bydd yr arfordir yn dir pori –
dolydd i fugeiliaid a chorlannau defaid.
7Bydd tir y glannau yn eiddo
i'r bobl sydd ar ôl o Jwda;
Nhw fydd yn pori yno
ac yn cysgu'r nos yn nhai Ashcelon.
Bydd yr Arglwydd eu Duw yn dod atyn nhw,
a rhoi llwyddiant iddyn nhw eto.

Barnu Moab ac Ammon

8“Dw i wedi clywed Moab yn gwawdio
a phobl Ammon yn enllibio
2:8 Moab … Ammon Y bobloedd i'r dwyrain o Jwda, yr ochr draw i'r Afon Iorddonen. Disgynyddion Lot, nai Abraham, yn ôl Genesis 19:30-38

gwawdio fy mhobl, a bygwth eu ffiniau.
9Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,”

—meddai'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel.
“Bydd Moab fel Sodom ac Ammon fel Gomorra! c
yn llawn chwyn a phyllau halen,
ac yn dir diffaith am byth.
Bydd y rhai sydd ar ôl o'm pobl yn dwyn eu heiddo,
a'r gweddill o'm gwlad yn cymryd eu tir.”
10Dyna fydd eu tâl am eu balchder,
am wawdio a bygwth pobl yr Arglwydd holl-bwerus.
11Bydd yr Arglwydd yn eu dychryn,
a bydd holl dduwiau'r ddaear yn ddim.
Yna bydd pobl pob cenedl yn addoli'r Arglwydd
yn eu gwledydd eu hunain.

Barnu Gogledd-Ddwyrain Affrica

12A chi, bobl dwyrain Affrica,
2:12 dwyrain Affrica Hebraeg,  Cwsh, sef yr ardal i'r de o'r Aifft, yn cynnwys rhannau o Swdan ac Ethiopia heddiw.
,
e
bydd fy nghleddyf yn eich lladd chi.

Barnu Asyria

13Bydd yr Arglwydd yn taro'r gogledd f
ac yn dinistrio Asyria.
Bydd dinas Ninefe yn adfeilion
2:13 Ninefe yn adfeilion Prif ddinas Asyria – gw. Jona 1:2; 3:2; 4:11. Cafodd ei choncro gan y Mediaid a'r Babiloniaid yn 612 CC, felly mae'n bosib fod Sechareia wedi byw i weld ei broffwydoliaeth yn dod yn wir. Mae Llyfr Nahum yn dathlu cwymp Ninefe.
;
yn sych fel anialwch diffaith.
14Bydd pob math o anifeiliaid gwylltion
yn gorwedd yn ei chanol.
Bydd tylluanod yn clwydo yn ei hadfeilion,
ac yn hwtian yn y ffenestri.
Bydd rwbel ar bob rhiniog
a'r waliau'n noeth
am fod yr holl waith coed wedi ei rwygo allan.
15Dyna ddaw o'r ddinas llawn miri
oedd yn ofni neb na dim!
Roedd yn meddwl, “Fi ydy'r un! –
Does neb tebyg i mi!” h
Ond fydd dim ond adfeilion ar ôl –
lle i anifeiliaid gwyllt gael byw!
Bydd pawb sy'n mynd heibio yn ei gwawdio
a gwneud ystumiau arni.
Copyright information for CYM